- C
- S
- I
Ni yw Dawnswyr Ysgafndroed – criw o ddawnswyr gwerin brwdfrydig sy’n dwlu ar berfformio, cadw’n heini a chystadlu mewn cystadlaethau ledled Cymru. Mae dawnsio gwerin yn ffordd wych o gadw traddodiadau’n fyw, bod yn rhan o gymuned a rhannu llawenydd ag eraill.
Rydyn ni am gwblhau her 10 diwrnod (yn dechrau ar y 23ain o Fehefin) er mwyn codi arian i brynu deunyddiau i greu gwisgoedd newydd. Mae’r rhain yn elfen hanfodol o’n perfformiadau ond, yn anffodus, mae’r deunyddiau’n ddrud iawn. Ein her yw cerdded, rhedeg neu rîlo 300 milltir – pellter sy'n cynrychioli'r daith wirioneddol y byddwn ni’n ei gwneud i Wrecsam a nôl er mwyn cystadlu yn yr Eisteddfod eleni.
Byddai eich cefnogaeth yn gwneud gwahaniaeth enfawr. Bydd yr holl roddion yn mynd yn uniongyrchol tuag at brynu ffabrig a deunyddiau o safon, er mwyn creu gwisgoedd traddodiadol, wedi'u gwneud â llaw sy'n adlewyrchu ein gwreiddiau diwylliannol ac yn sicrhau y gall pob dawnsiwr berfformio gyda balchder a hyder.
Bydd unrhyw gyfraniad, ni waeth pa mor fawr neu fach, o gymorth mawr. Gyda'ch cefnogaeth chi, gallwn sicrhau bod pob aelod o’r grŵp yn teimlo’n falch, yn hyderus ac yn barod i ddisgleirio ar lwyfan y Genedlaethol eleni mewn gwisgoedd traddodiadol o safon.
Organizer and beneficiary
Sion-Rhys Evans
Organizer
Rhian Daniel
Beneficiary




