
Ymgyrch 'Tashwedd' y GymGym
Mae 1 o bob 2 ohonom yn debygol o ddatblygu rhyw fath o symptom cancr yn ystod ein bywydau, gyda bron i 4,000 o bobl ifanc 25 ac iau yn cael diagnosis o ganser bob blwyddyn.
Eleni rydym ni fel timau chwaraeon y GymGym, Cymdeithas Gymraeg Prifysgolion Caerdydd wedi penderfynu codi arian tuag at yr elusen ‘Young Lives v Cancer’, maent yn gweithio’n ddiflino i gynnig cymorth arbenigol i bobl ifanc a’u hanwyliaid sydd yn mynd drwy driniaeth cancr. Maent yn darparu cymorth ariannol, cwnsela, cymorth addysgiadol ac gweithwyr cymdeithasol, hyn oll gyda rhan o’u gwasanaeth ar gael drwy’r Gymraeg.
Eleni yr her rydym wedi ei osod i ein hunain yw i redeg 1,389km sef y pellter o Gaerdydd, i Lundain, i fyny i Gaeredin, dros y môr i Ddulyn ac yna yn ôl i Gaerdydd, hyn oll tra ein bod yn tyfu/ceisio tyfu 'tash'. Byddai unrhyw gyfraniad yn cael ei werthfawrogi'n fawr wrth i ni fynd ati i geisio cwblhau'r her uchelgeisiol yma.
Hoffai pawb o’r GymGym anfon nerth i unrhyw un sydd yn brwydro yn erbyn cancr ar hyn o bryd gan ddymuno gwellhad buan iawn iddynt.
Diolch
Organizer
Cynwal ap Myrddin
Organizer
Wales
Young Lives vs Cancer
Beneficiary