
Gwaddol Iola
CYFLE I GEFNOGI DRAMÂU NEWYDD AR LWYFAN A SGRIN
Er cof am y diweddar actores Iola Gregory, a fu farw ym mis Tachwedd 2017, dyma gyflwyno Gwaddol Iola - cronfa er cof amdani fydd yn cynnig cefnogaeth i grŵp neu unigolion i fynd ati i gynhyrchu llwyfaniad neu ffilm fer ddramatig.
Bob dwy flynedd, bydd y prosiect buddugol yn derbyn cefnogaeth wedi ei theilwra yn arbennig - yn cynnwys cefnogaeth ariannol; y defnydd o adnoddau; ynghyd â mentoriaeth gan arbenigwyr yn y maes. Ar ddiwedd y cyfnod bydd disgwyl i'r prosiect ddwyn ffrwyth, gyda llwyfaniad theatrig neu ddangosiad cyhoeddus o'r gwaith mewn sinema.
Er mwyn gwneud y fenter yn bosib, rydym yn chwilio am gyfraniadau ariannol a chyfraniadau ar ffurf mentoriaeth. Buasem yn hynod werthfawrogol o bob cyfraniad, mawr neu fach.
Am ragor o wybodaeth am Gwaddol Iola - neu er mwyn cyfrannu yn rheolaidd - ewch i:
www.gwaddol-iola.cymru
Roedd Iola Gregory yn actores a weithiodd ym myd y theatr, ffilm, teledu a radio ar gynyrchiadau fel Minafon, Joni Jones, Rhosyn a Rhith, Stormydd Awst, Siwan, Pobol y Cwm a Rownd a Rownd. Hi hefyd oedd un o sylfaenwyr cwmni theatr arloesol Bara Caws yn ôl yn 1977, oedd â'r dyhead i herio'r drefn a gwneud y theatr Gymraeg yn fwy perthnasol i fywydau pobl Cymru.
Diolch o galon i'r canlynol am eu cyfraniadau ariannol hyd yma:
Ifor ap Glyn, Caernarfon
Gwenda Davies, Llanfair-pwll
Huw a Sian Jones, Llandwrog
Angharad Tomos a Ben Gregory, Penygroes
A Prytherch
Cwmni Da
Galeri, Caernarfon