- M
- B
- S

The Rat Run 2026 – Tîm 213 Mazda 6
0% complete
£6,400 raised of
122 donations
Scroll down for English
The Rat Run – 1,300 milltir, un car ugain oed gwerth £600 a tri gobeithiol!
Wel, rydyn ni wedi mynd ati i wneud The Rat Run!
Fi, fy mrawd Trefor Parry, a’n cyd-yrrwr Rhys Richards sy’n wynebu taith o tua 1,300 milltir mewn car sydd werth dim mwy na £600!
Gadael: 7 Medi
Cyrraedd Benidorm: 11 Medi
Ymweld â: Dover ➡️ Rouen ➡️ Bordeaux ➡️ Zaragoza ➡️ Benidorm
Ein car ffyddlon? Mazda 6.
Ond nid yr antur yn unig sy’n bwysig. Rydyn ni’n gwneud hyn i godi arian at dri achos arbennig iawn sy’n agos iawn at ein calonnau.
❤️ Y Walton Centre
Y llynedd, aeth fy ngwraig Gwen yn ddifrifol wael a bu’n rhaid iddi gael llawdriniaeth anhygoel o 18 awr i dynnu schwannoma vestibwlar.
Mae’r gofal, yr arbenigedd a’r tosturi a gafodd Gwen gan bawb yn Y Walton Centre yn rhyfeddol. Mae ei hadferiad wedi bod yn anhygoel, a byddwn bob amser yn hynod ddiolchgar i’r bobl wych a fu’n gofalu amdani.
❤️ Porthi Dre, Caernarfon
Mae Gwen wedi dod o hyd i alwedigaeth newydd drwy wirfoddoli yn Porthi Dre, canolfan gymunedol yng nghanol Caernarfon sy’n gweithio i fynd i’r afael â thlodi, lleihau gwastraff bwyd a helpu i frwydro yn erbyn unigrwydd.
Mae gwirfoddoli yno wedi chwarae rhan bwysig iawn yn adferiad Gwen, ac mae Porthi Dre a’r gwaith gwych maen nhw’n ei wneud bellach yn agos iawn at ei chalon.
❤️ Ysbyty Eryri
Ac yn olaf, ond yn sicr nid y lleiaf, dioddefodd ein cyd-yrrwr Rhys Richards strôc yn 2023, a effeithiodd ar ochr dde ei gorff.
Chwaraeodd y gofal a’r gefnogaeth a gafodd Rhys yn Ysbyty Eryri ran enfawr yn ei adferiad, ac rydyn ni wrth ein bodd ei fod bellach yn ymuno â ni ar yr antur wallgof hon!
Felly, os gallwch gyfrannu unrhyw beth o gwbl, plîs ystyriwch wneud rhodd i’n tri achos. Bydd pob punt yn cael ei gwerthfawrogi’n fawr ac yn helpu i gefnogi sefydliadau sydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl rydyn ni’n eu caru.
Tri ffrind.
Un Mazda 6 gwerth £600.
1,300 milltir.
5 diwrnod.
Dover ➡️ Rouen ➡️ Bordeaux ➡️ Zaragoza ➡️ BENIDORM!
Diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth.
Robert Parry, Trefor Parry & Rhys Richards
️ The Rat Run – Tîm 213 Mazda 6
The Rat Run – 1,300 Miles, One 20 yr old £600 Banger & Three Idiots!
Well, we’ve only gone and entered The Rat Run!
Myself, my brother Trefor Parry, and our co-driver Rhys Richards are taking on around 1,300 miles from Dover to Benidorm — in a car that’s allowed to be worth no more than £600!
Our trusty steed? A Mazda 6.
But this isn’t just about the adventure. We’re doing it to raise money for three very special and deserving causes, each of which means a huge amount to us.
❤️ The Walton Centre
Last year, my wife Gwen became seriously ill and underwent an incredible 18-hour operation to remove a vestibular schwannoma.
The care, expertise and compassion Gwen received from everyone at The Walton Centre was quite simply indescribable. Her recovery has been amazing, and we will always be hugely grateful to the fantastic people who looked after her.
❤️ Porthi Dre, Caernarfon
Gwen has found a new vocation volunteering at Porthi Dre, a community hub in the heart of Caernarfon tackling poverty, reducing food waste and helping combat loneliness.
Volunteering there has played a really important part in Gwen’s recovery, and Porthi Dre and the amazing work they do are now very close to her heart.
❤️ Ysbyty Eryri
And last, but certainly by no means least, our co-driver Rhys Richards suffered a stroke in 2023, affecting his right side.
The care and support Rhys received at Ysbyty Eryri played a huge part in his recovery, and we’re delighted that he’s now joining us on this mad adventure!
So, if you can spare anything at all, please consider making a donation to our three chosen causes. Every pound will be hugely appreciated and will help support organisations that have made a real difference to people we love.
Three mates.
One £600 Mazda 6.
1,300 miles.
Dover ➡️ France ➡️ Spain ➡️ BENIDORM!
Let’s see what happens!
Diolch / Thank you for your support.
Robert Parry, Trefor Parry & Rhys Richards
️ The Rat Run – Team 213 Mazda 6



