- O
- A
CYMRAEG:
Annwyl ffrindiau,
Mae’r pedwar ohonom (Gwil, Tom, Elin a Rhianydd) wedi penderfynu rhedeg Hanner Marathon Caerdydd 2025 ar gyfer dwy elusen sy’n bwysig i ni fel teulu.
Yr elusen gyntaf yw Prostate Cymru, ac rydym yn ei chefnogi er cof am ein Taid, a fu farw ym mis Hydref 2024 o ganser y brostad. Roedd wedi ymroi ei fywyd i’w gleifion ei hun fel llawfeddyg, ac mi fyddai’n awyddus i ni barhau i helpu eraill yn ei gof. Mae Prostate Cymru yn gweithio’n ddiflino i frwydro yn erbyn canser y brostad, codi ymwybyddiaeth, a gwella canlyniadau i gleifion a theuluoedd sy’n cael eu heffeithio gan y clefyd hwn.
Yr ail elusen yw Aren Cymru, ac rydym yn ei chefnogi ar gyfer ein Tad-cu, sydd wedi bod yn derbyn dialysis ers 2017. Mae dialysis wedi achub ei fywyd, ond mae’n dod â heriau anferthol—treulio oriau bob yn ail ddiwrnod yn yr ysbyty wedi’i gysylltu â pheiriant yw realiti ei bywyd. Mae Aren Cymru yn cefnogi ymchwil ac arloesi a allai arwain at driniaethau gwell, llai ymyrrol i bobl fel ein Tad-cu sy’n byw gyda chlefyd yr arennau.
Ein nod yw codi £1,000 i’w rannu rhwng y ddwy elusen hanfodol hyn. Bydd unrhyw rodd, waeth pa mor fawr neu fach, yn ein helpu i wneud gwahaniaeth ym mywydau’r rhai sy’n cael eu heffeithio gan ganser y brostad a chlefyd yr arennau. Diolch!
-
ENGLISH:
Dear friends,
The four of us (Gwil, Tom, Elin and Rhianydd) have decided to run together in the 2025 Cardiff Half Marathon. We are running for two charities that are important to our family.
The first charity is Prostate Cymru (Prostate Wales), which we are supporting in memory of our Grampy (Barrie Williams), who died in October 2024 from metastatic prostate cancer. He had dedicated his life to his own patients as a surgeon, and would be keen for us to continue to help others in his memory. Prostate Cymru works tirelessly to combat prostate cancer, raise awareness, and improve outcomes for patients and families affected by this disease.
The second charity is Aren Cymru (Kidney Wales), which we are supporting for our Tad-cu (Arwyn Preest), who has been undergoing kidney dialysis since 2017. Dialysis has been life-saving, but it comes with immense challenges—spending hours every other day at the hospital attached to a machine, is a reality we wouldn’t wish on anyone. Kidney Wales supports research and innovation that could one day lead to better, less invasive treatments for people like our Tad-cu living with kidney disease.
Our goal is to raise £1,000 to split between these two brilliant charities. Any donation, no matter how big or small, will help us make a difference in the lives of those affected by prostate cancer and kidney disease. Diolch!

