Main fundraiser photo

Penblwydd Hapus - Happy Birthday, Elinor Bennett!

Donation protected
Portread o Elinor / A Portrait of Elinor


Rydym yn codi arian ar gyfer creu portread cyhoeddus o'r delynores amryddawn Elinor Bennett. Bydd y portread gan David Griffiths, un o artistiaid mwyaf blaenllaw Cymru, a'r bwriad yw cyflwyno'r anrheg unigryw hwn fel diolch i Elinor am ei chyfraniad aruthrol i'n diwylliant Cerddorol a'r cyfan y mae wedi ei gyflawni er budd cymaint ohonom – yn ddisgyblion, cyd-athrawon, telynorion, cyfansoddwyr, cyfeillion a phawb sy'n caru cerddoriaeth.

We are raising funds for a public portrait of the renowned Welsh harpist, Elinor Bennett. The portrait will be by one of Wales’s foremost painters, David Griffiths, and is intended as a special gift to thank Elinor for her immense contribution to the world of Music and for all that she has achieved for the benefit of so many of us – pupils, fellow teachers, harpists, composers, friends and music lovers.



Anrheg o Ddiolch / A Gift of Thanks

Bydd Elinor yn dathlu ei phenblwydd yn 80 mlwydd oed ym mis Ebrill ac y mae ganddi gysylltiad parhaol gyda Chanolfan Gerdd William Mathias a sefydlodd hi yng Nghaernarfon – yn ogystal a chyda'r byd telyn yng Nghymru ac yn ryngwladol. He hoffem allu cyflwyno'r portread gorffenedig iddi yn ystod Pumed Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru a gynhelir gan y Ganolfan ym mis Ebrill 2023 yn Galeri, Caernarfon. Dyma fydd Gŵyl Ryngwladol olaf Elinor fel Cyfarwyddwr Artistig ac fe fydd y portread yn cael ei arddangos yn barhaol wedyn yn y Ganolfan.

Elinor will be celebrating her 80th birthday in April and has a continuing association with Canolfan Gerdd William Mathias, which she founded in Caernarfon, as well with harp music throughout Wales and beyond. We would like to present the finished portrait to her during the Canolfan’s Fifth Wales International Harp Festival, which will take place in April 2023 at Galeri, Caernarfon. This will be Elinor’s last International Festival in her role as Artistic Director, and the portrait will then be put on permanent public display in the Canolfan.

Helpwch ni i godi'r arian / Help us to raise the funds

Ffi gomisiwn David ar gyfer y portread yw £7,500 a gobeithiwn yn daer y gallwn godi'r swm hwn i ddangos ein gwerthfawrogiad diffuant o ymgysegriad arbennig Elinor i'r celfyddydau yn gyffredinol yng Nghymru dros y degawdau. Sefydlwyd yr apêl GoFundMe hwn i godi'r arian ar gyfer y portread a gobeithiwn y byddwch yn awyddus i gyfrannu – mae croeso cynnes i roddion bach a mawr.
Ymnwch gyda ni i ddathlu gwaith rhyfeddol Elinor! Gallwn gyrraedd y nod gyda'ch cefnogaeth a bydd enwau pob un sy'n cyfrannu yn cael eu nodi yn gyhoeddus ar adeg y cyflwyno fel diolch am eich caredigrwydd.

David’s commission fee for painting the portrait is £7,500 and we sincerely hope to be able to raise this figure to show our appreciation for Elinor's dedication to the arts in general in Wales over the decades. We have set up this GoFundMe appeal to raise the funds for the portrait and hope that you will be keen to contribute – small and large donations will be welcome.
Please join us in celebrating the work of this extraordinary lady! We can reach our goal with your help, and the names of all who donate can be noted at the time of presentation as a mark of thanks to you for your generosity.

Diolch i chi! / Thank you!

Rhiannon Mathias a/and Geraint Lewis
Donate

Donations 

    Donate

    Organizer and beneficiary

    Rhiannon Mathias
    Organizer
    Wales
    David Griffiths
    Beneficiary

    Your easy, powerful, and trusted home for help

    • Easy

      Donate quickly and easily

    • Powerful

      Send help right to the people and causes you care about

    • Trusted

      Your donation is protected by the GoFundMe Giving Guarantee