
Milltiroedd Dros Myeloma
Donation protected
Bydd fy mrawd Aled a minnau yn cymryd rhan mewn taith gerdded noddedig rhwng Awst 28ain - 30ain i godi ymwybyddiaeth am Myeloma, cyflwr sydd wedi cael effaith ddofn ar ein teulu. Bydd ein llwybr yn mynd â ni o Ysbyty’r Waun yng Nghaerdydd i Ddrefach, gan basio Ysbyty Singleton yn Abertawe ac Ysbyty’r Tywysog Philip yn Llanelli.
Mae’r daith hon yn adlewyrchu taith ein Mam – o gynaeafu ei chelloedd yn Ysbyty’r Waun, i dderbyn trawsblaniad celloedd yn Ysbyty Singleton, ac yna derbyn gofal yn Uned Cemotherapi Ysbyty’r Tywysog Philip.
Rydym yn codi arian ar gyfer tair elusen anhygoel: Myeloma UK, Uned Cemotherapi Ysbyty’r Tywysog Philip, a’r Gronfa Lymffoma Leukaemia Myeloma Cymru. Mae’r sefydliadau hyn wedi cefnogi Mam gyda gofal eithriadol, ac maent yn parhau i helpu cymaint o bobl eraill.
Mae’r daith hon yn un agos iawn at ein calonnau. Gobeithiwn godi ymwybyddiaeth ac arian i gefnogi eraill sy’n cael eu heffeithio gan Myeloma.
Diolch o galon am eich caredigrwydd, eich cefnogaeth, ac am ein helpu i roi rhywbeth yn ôl i’r rhai sydd wedi rhoi cymaint.
***
My brother Aled and I will be taking part in a sponsored walk between August 28th - 30th to raise awareness of Myeloma, a condition that has deeply affected our family. Our route will take us from the Heath Hospital in Cardiff to Drefach, passing through Singleton Hospital in Swansea and Prince Philip Hospital in Llanelli. This journey mirrors the path our mum took—from harvesting her stem cells at the Heath, to receiving her stem cell transplant in Singleton, and continuing care at Prince Philip’s Day Chemotherapy Unit.
We’re raising funds for three incredible charities: Myeloma UK, Prince Philip Hospital Day Chemotherapy Unit, and the Lymphoma Leukaemia Myeloma Fund Wales. These organisations have supported Mum with outstanding care, and they continue to help so many others.
This journey is incredibly close to our hearts. We hope to raise both awareness and vital funds to support others affected by Myeloma.
Thank you for your kindness, support, and for helping us give back to those who have given so much.
Organizer
Lowri Thomas
Organizer
Wales