- R
- A
- F
Nôl ym Mis Mai profodd dîm Pêl-Droed y GymGym, y GymGym yn ehangach a chymdeithas Caernarfon brofedigaeth fawr. Bu farw Josh ‘Pickle’ mewn gwrthdrawiad angeuol wrth iddo gerdded yn ôl adra wedi iddo fod yn gweithio ar gyrion tref Caernarfon. Roedd yn ergyd fawr, yn golled aruthrol ac rydym yn dal i deimlo chwith garw ar ei ôl. Roedd yn bêl-droediwr medrus, yn ffrind ffyddlon ac yn gwmni heb ei ail.
Roedd dewis yr elusen ‘2Wish’ er mwyn codi arian iddo yn rhan o ymgyrch ‘Tashwedd’ yn ddewis naturiol. Mae’r elusen yn gwneud gwaith gwych yn darparu cymorth amhrisiadwy i deuluoedd a ffrindiau sydd mewn galar yn dilyn profedigaethau sydyn. Gyda'n gilydd mi fyddwn ni fel grŵp yn ceisio tyfu 'tash' ,yn ogystal a rhedeg 456 milltir, sef y pellter o Gaernarfon, I Goodison Park, i Gaerdydd ac yna nôl adra i Gaernarfon.
Byddem fel tîm yn gwerthfawrogi unrhyw gyfraniad i'r elusen yma, sydd wedi bod yn gefn i gymaint yn ystod amseroedd tywyll iawn. Hoffwn ddiolch iddynt hwy am eu gwaith ond yn fwy na dim, diolch i chdi Josh am fod yn un mor driw a ffyddlon i dy holl ffrindiau.
Organizer
2wish
Beneficiary

