Eisteddfod Caerdydd

Os hoffech chi’n helpu ni i gynnal eisteddfod leol yng Nghaerdydd, byddem yn gwerthfaworgi unrhyw gyfraniad. 

Os yw eich rhodd i noddi cystadleuaeth benodol, cysylltwch â ni drwy e-bostio cyswllt@eisteddfodcaerdydd.cymru. Mae’r rhestr testunau ar gael yn www.eisteddfodcaerdydd.cymru

Fel arall bydd eich nawdd yn cael ei ddefnyddio i dalu costau cyffredinol rhedeg yr eisteddfod, gan gynnwys talu am logi’r lleoliad, beirniaid, gwobrau cyffredinol ac yswiriant. 

Cefndir
Ar ôl Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018, cafodd sawl person y syniad o gynnal
eisteddfod leol yng Nghaerdydd. Felly dyma grŵp o ni’n dod at ein gilydd i drefnu’r eisteddfod. 

Erbyn hyn ry’n ni wedi cael nawdd gan Tŷ Cerdd a rhoddion gan amryw gorau a sefydliadaulleol. Ond mae dal llawer o ffordd i fynd i ni allu sicrhau eisteddfod lwyddiannus yn 2020, aci’r dyfodol. 

Dyma lle gallwch chi helpu. Drwy wneud cyfraniad bychan, a rhannu’r dudalen hon gyda ffrindiau a theulu, gallwn ni godi digon o arian i sicrhau cynnal eisteddfod lwyddiannus. Y cwblfydd ar ôl wedyn fydd i chi ddod i gystadlu neu gefnogi ar y noson!

Felly os allwch chi sbario ychydig bunnoedd, gyda’n gilydd fe allwn ni sicrhau eisteddfod leol i Gaerdydd. 

Diolch
Pwyllgor Eisteddfod Caerdydd

Donations

  • Anonymous 
    • £20 
    • 28 d

Organizer

Sioned Wyn 
Organizer
Whitchurch, Wales, United Kingdom
  • #1 fundraising platform

    People have raised more money on GoFundMe than anywhere else. Learn more

  • GoFundMe Guarantee

    In the rare case that something isn’t right, we will refund your donation. Learn more

  • Expert advice, 24/7

    Contact us with your questions and we’ll answer, day or night. Learn more