
Cyhoeddi 'Y Flodeugerdd Englynion Beddau'
Donation protected
Ledled Cymru, yn harddu ein mynwentydd, mae o leiaf 27,000 o englynion Beddau. Mae pawb bron o fewn dwy filltir i englyn bedd. Mae hwn yn draddodiad byrlymus a di-dor o 1656 hyd heddiw. Mae englynion lu hefyd yn Lerpwl, Llundain, Yr Unol Daleithiau, Awstralia, Patagonia, De Affrica, Ffrainc, Yr Aifft, Iwerddon, Cumbria, Gwlad Belg, Palesteina ac ati. Bydd Dr Guto Rhys a’r Athro-Brifardd Alan Llwyd yn cyhoeddi ‘Y Flodeugerdd Englynion Beddau’ gyda Gwasg Prifysgol Cymru. Er mwyn sicrhau cyhoeddi’r goreuon oll mae angen cyllid ychwanegol. Byddwn yn nodi enw pob cyfrannwr (gan gynnwys mudiadau) yn y rhestr ‘Tanysgrifwyr’ yn y gyfrol. Mae’n gyfrol gyfoethog, yn gyforiog o nodiadau am bob agwedd ar y cerddi rhyfeddol hyn.
The University of Wales Press will soon be publishing an anthology of ‘grave englynion’, but further funding is needed in order to publish the most important of these, some 2,200 in total. All contributions will be acknowledged in the volume. Do help us, as at present there is insufficient funding to research and publish the richness of the bare minimum.
Organizer
Guto Rhys
Organizer
Wales