
Cronfa Diolch 2022
Donation protected
Unwaith eto, rydym yn cyrraedd yr adeg o'r flwyddyn pan fydd llawer o'n disgyblion yn gadael yr ysgol, i ddilyn eu hastudiaethau yn y brifysgol neu drwy gyrsiau addysg bellach. Ac fe fydd eraill, wrth gwrs, yn gadael i ymuno a byd gwaith.
Fel bob amser, bydd yn ddrwg gennym eu gweld yn mynd - ond rydym yn ymfalchïo yn eu cyflawniadau ac yn teimlo'n siŵr y byddant yn parhau i ffynnu - ac yn gwneud y gorau o'r cyfleoedd y bydd bywyd yn eu cynnig iddynt.
Rydym wrth ein bodd bod Plasmawr wedi gallu chwarae rhan yn eu datblygiad - ac rydym yn gobeithio eu bod wedi mwynhau eu hamser yn yr ysgol.
Yn y cyfamser, rydym yn gwybod yr hoffai rhai rhieni gydnabod eu gwerthfawrogiad o'n gwaith gyda'u plant - ac y byddent yn hapus i wneud hynny trwy rodd fach GoFundMe. Rydym yn hapus i'w galluogi i wneud hynny.
Mae'r dudalen GoFundMe arbennig yma i'w defnyddio, felly, gan rieni'r disgyblion hynny sy'n gadael yr ysgol. Fodd bynnag, peidiwch â theimlo eich bod o dan unrhyw bwysau i roi, yn enwedig yn ystod yr amser anodd hyn.
Os gallwch chi gyfrannu, bydd unrhyw arian a godir yn cael ei ddefnyddio i brynu adnoddau er budd disgyblion ar draws cymuned yr ysgol.
Gallwch ddewis i'ch rhodd beidio â chael ei dangos i ymwelwyr eraill â'r wefan hon, pe bai'n well gennych gadw'ch rhodd yn breifat.
Gallwch ddewis i'ch rhodd beidio â chael ei dangos i ymwelwyr eraill â'r wefan hon, pe bai'n well gennych gadw'ch rhodd yn breifat.
Diolch i chi am eich sylw at yr uchod - ac am eich cefnogaeth i'r ysgol yn ystod amser eich plentyn gyda ni.
Byddwn yn gweld eu eisiau i gyd!
* * *
Once again, we are reaching that time of year when many of our pupils will leave the school, to pursue their studies at university or via further education courses. Others may be leaving to enter the world of work.
As always, we will be sorry to see them go - but we take pride in their achievements and feel sure that they will continue to thrive - and make the best of the opportunities that life will offer them.
We are delighted that Plasmawr was able to play a part in their development - and we hope that they enjoyed their time at the school.
In the meantime, we know that some parents would like to acknowledge their appreciation of our work with their children - and would be happy to do so via a small GoFundMe donation. As such, we are happy to enable them to do so.
This special GoFundMe page is for use, therefore, by the parents of those pupils leaving the school. However, please do not feel that you are under any pressure to donate, especially during these difficult times.
If you can donate, then any money raised will be used to buy resources to benefit pupils across the school community.
Please note that your can opt for your donation not to be shown to other visitors to this fundraising site, should you prefer to keep your donation private.
Please note that your can opt for your donation not to be shown to other visitors to this fundraising site, should you prefer to keep your donation private.
Thank you for your attention to the above - and for your support for the school during your child's time with us.
We will miss them all!
Organizer and beneficiary
CRASP Plasmawr
Organizer
Wales
Lisa Evans
Beneficiary