CAP Treatment ar gyfer Topical Steroid Withdrawal (TSW).

CAP Treatment ar gyfer Topical Steroid Withdrawal (TSW). campaign photo, 1 of 6CAP Treatment ar gyfer Topical Steroid Withdrawal (TSW). campaign photo, 1 of 6
CAP Treatment ar gyfer Topical Steroid Withdrawal (TSW). campaign photo, 2 of 6

  • g
  • N
  • I
208 donors
CAP Treatment ar gyfer Topical Steroid Withdrawal (TSW). campaign photo, 4 of 6
CAP Treatment ar gyfer Topical Steroid Withdrawal (TSW). campaign photo, 5 of 6
Fundraiser’s main image
0% complete

£3,737 raised of £3K

CAP Treatment ar gyfer Topical Steroid Withdrawal (TSW).

CAP Treatment ar gyfer Topical Steroid Withdrawal (TSW).

0% complete

£3,737 raised of £3K

208 donations
Donation protected
Helo, fy enw i ydi Meilir a dwi’n 21 mlwydd oed. Cyn i bob dim newid, roeddwn i’n berson cymdeithasol, chwarae llwyth o bêl-droed a mwynhau fy nhymor cyntaf ym mhrifysgol Met Caerdydd.

Ond ers bron i dair mlynedd, mae fy mywyd wedi’i newid yn llwyr. Hynny oherwydd cyflwr o’r enw TSW (Topical Steroid Withdrawal). Ers plentyndod, roeddwn i’n defnyddio steroid creams i drin fy eczema, yn meddwl bod nhw’n saff, heb side effects eithafol. Sylweddolais, yn rhy hwyr, mai nid dyma’r sefyllfa.

Be ydi TSW?
Mae Topical Steroid Withdrawal yn gyflwr difrifol, sy’n cael ei gamddeall yn aml. Mae’n digwydd oherwydd gor-ddefnydd o Topical Steroids, sy’n fodd cyffredin o drin cyflyrau croen fel eczema.

Pan mae’r corff yn ddibynnol ar steroid fel hyn, dydi’r croen ddim yn amddiffynnu ei hun yn naturiol. Os bod un yn stopio defnyddio nhw, mae’r croen, nervous system, immune system ac adrenal glands yn ymateb mewn ffyrdd extreme.

Dydi TSW ddim yn “rash” neu “worsening eczema” - mae’n gyflwr sy’n effeithio’r corff i gyd, gyda effeithiau corfforol a meddyliol.

Yn gorfforol, mae’n annioddefol. Mae’r croen yn llosgi, weep-io, ooze-io, flake-io. Ar hyn o bryd dwi mewn patrwm o flare ups sydd allan o’m rheolaeth. Mae’n nghroen i’n goch, weithiau’n amrwd a’n chwyddo. Mae cwsg yn anodd, roedd na gyfnod lle doeddwn i heb gysgu’n iawn ers wythnosau. Yna, mae’r teimlad o boen miniog oherwydd y nerve damage, colli gwallt a sawl infection. Dwi’n meddwl mai’r chwe mis dwytha ydi’r cyfnod anodda dwi wedi’i gael.

Yn feddyliol, mae wedi cael effaith mawr, er nad ydw i eisiau cyfaddef hynny. Dwi’n cuddio adra pan mae petha’n anodd ac ddim isio i neb fy ngweld. Dwi wedi gweld hi’n anodd siarad am y peth i fod yn onast, yn rhy embarassed o fod yn ‘sal’. Dwi’n edrych yn y drych a’n gweld rhywun sydd mor wahanol i fy hun. Yn canslo plania neu’n methu troi fyny i’m ffrindia a teulu - mor wahanol i fi go iawn, sy’n mwynhau bod yng nghwmni eraill. Dwi’n teimlo fy mod i wedi methu allan ar gymaint o ddigwyddiadau cymdeithasol oherwydd fy nghroen. Neu weithiau, dwi’n pwsho fy hun i droi fyny a’n teimlo mor anghyfforddus yn fy nghorff fy hun, dwi methu ymlacio a mwynhau fy hun. Dwi’n casau’r teimlad o orfod gadael ac egluro pam.

Dwi’n lwcus o gael cefnogaeth/support system o fy nghwmpas. Dwi’n ddiolchgar iawn i fy nghariad, Lili, sydd wedi bod yn gefn i mi, bob cam, mawr neu bach (sydd yn eistedd wrth fy ochr wrth sgwennu’r darn yma). Dwi’n gwerthfawrogi fy nheulu a fy ffrindiau agos. Mae cyfnod anodd fel hwn wedi dangos pwysigrwydd siarad. Er, dwi’n sylweddoli bod angen i mi wneud mwy o hynny, yn enwedig i godi ymwybyddiaeth o TSW.

Dwi wedi bod drwy sawl triniaeth bellach, ond does dim un wedi gweithio yn iawn. Mae bob un yn teimlo fel quick fix, dwi’n cael blas o fywyd a wedyn yn cael fy llusgo mewn i gyfnod arall o flare ups. Dwi’n diolch i’r haul ar hyn o bryd, mae’r tywydd braf yn gwneud pethau ‘chydig yn haws.

CAP Therapy
Dwi wedi ffeindio gobaith mewn triniaeth o’r enw Cold Atmospheric Plasma (CAP) Therapy, sydd ar gael yn Skin Solace Clinic, Winchester.

Mae’n driniaeth newydd, sy’n dangos canlyniadau addawol i bobl sy’n dioddef hefo TSW. Mae’n gweithio drwy iachau celloedd y croen, lleihau inflammation a helpu’r croen i atgyweirio mewn ffordd nad yw triniaethau confesiynol yn gallu gwneud.

Am y tro cyntaf, dwi’n teimlo bod cyfle i wella, i gyrraedd pwynt ‘manageable’.

Pam dwi angen eich help?
Yn anffodus, dydi’r triniaeth yma ddim ar gael drwy’r NHS a mae’r gost yn ddrud. Ar ben hynny, bydd angen i mi deithio yn wythnosol i Winchester am gyfnod o 6 mis.

Os ydych chi wedi cymrud yr amser i ddarllen hwn, diolch - mae’n meddwl lot.

Os ydych chi mewn lle i gyfrannu, byddai’n fy helpu i gamu’n agosach at gael fy mywyd yn ôl, i fod yn iach, i edrych tua’r dyfodol a’n fwy na dim i fyw yn rhydd o’r boen sydd wedi rheoli fy mywyd ers blynyddoedd.

Os nad ydych chi’n gallu cyfrannu, byddwn i’n ddiolchgar os y gallwch chi rannu.

Diolch.

Byddaf i, teulu a ffrindiau, hefyd yn cerdded fyny’r Wyddfa ar y 30ain mis yma er mwyn codi arian. Croeso i unrhyw un ymuno :)
Donate

Organizer

Profile photo of Meilir Rowlands
Meilir Rowlands
Organizer
Cymru
  • Medical
  • Donation protected

Your easy, powerful, and trusted home for help

  • Easy

    Donate quickly and easily

  • Powerful

    Send help right to the people and causes you care about

  • Trusted

    Your donation is protected by the GoFundMe Giving Guarantee