- K
- H
- J
Help Save Blas Lon Las - A Community Lifeline in North Wales
Blas Lon Las is more than a café.
It’s a place to pause, connect, and belong.
Sitting alongside the cycle path and serving surrounding rural villages, Blas Lon Las has become a much-loved hub. It’s where retired neighbours meet for a chat and a warm drink, where families stop after walks, and where cyclists and the wider sporting community refuel and reconnect. For many, it’s not just somewhere to eat, it’s part of their weekly routine and sense of community.
The building itself holds local history, rooted in the quarrying and farming communities that shaped this area. That same spirit of care and mutual support still runs through Blas Lon Las today. The café is partly volunteer-run and sustained by people who believe rural communities deserve welcoming spaces like this.
We’re now at a moment where a little help can make a big difference.
To keep Blas Lon Las thriving, we need to carry out essential repairs and improvements to the building and facilities. These works will help us operate more efficiently, remain safe and welcoming, and protect the café for the future.
Our goal: £15,000
This funding will help us:
• Complete urgent repair and maintenance work
• Improve key areas of the café and building
• Strengthen the café so it can continue serving the community long-term
Reaching this target will allow us to complete these improvements and continue looking after both the building and the community it serves.
If Blas Lon Las has ever been a place you’ve rested, laughed, refuelled, or felt at home, or if you simply believe in the importance of community spaces in rural areas, we’d be incredibly grateful for your support. Donations of any size help, and sharing our story makes a real difference too.
You can also support us by stopping in for breakfast, lunch, or a little grocery shopping whenever you’re nearby.
Blas Lon Las has always been about community. With your help, it can continue to be a place where people meet, belong, and feel welcome.
Thank you for being part of our story
Helpwch Ni Achub Blas Lôn Las - Canolbwynt Hanfodol i'r Gymuned yma yng Ngogledd Cymru
Mae Blas Lôn Las yn fwy na caffi - mae'n le i oedi, i gysylltu a perthyn i'r gymuned.
Yma, wrth ymyl Lôn Las Ogwen, a phentrefi gwledig cyfagos, mae Blas Lôn Las wedi dod yn fan cyswllt poblogaidd iawn. Lle cynnes i gwrdd â hen ffrindiau am sgwrs dros baned, lle i'r teulu orffwys ar ôl bod am dro, a lle i feicwyr a rhedwyr gael ysbaid i ail lenwi tra'n mwynhau y cyswllt cymunedol sydd yma. I lawer, nid lle i fwyta yn unig ydyw, ond rhan bwysig o drefn yr wythnos sy'n cryfhau y teimlad o berthyn i'r gymuned.
Mae'r adeilad ei hun wedi gwreiddio yn hanes y ffermio a'r cymunedau o chwarelwyr a luniodd ein bro. Mae'r un ysbryd o ofalu a cefnogi ein gilydd yn dal i redeg drwy Blas Lôn las heddiw. Mae'r caffi yn cael ei redeg yn rhannol gan wirfoddolwyr ac yn cael ei gynnal gan bobl sy'n credu bod cymunedau yn haeddu mannau croesawgar fel hyn.
Rwan, rydym mewn cyfnod lle gall ychydig o help wneud gwahaniaeth mawr.
Er mwyn cadw Blas Lôn Las i ffynnu, mae angen i ni wneud atgyweiriadau a gwelliannau hanfodol i'r adeilad a'r cyfleusterau. Bydd y gwaith yma yn ein helpu i weithredu'n fwy effeithlon, yn ddiogel ac yn groesawgar, a sicrhau dyfodol y caffi.
Ein targed: £15,000
Bydd y cyllid hwn yn ein helpu i:
• Cwblhau gwaith atgyweirio a chynnal a chadw brys
• Gwella mannau allweddol y caffi a'r adeilad
• Cryfhau'r caffi fel y gall barhau i wasanaethu'r gymuned yn yr hir-dymor.
Bydd cyrraedd y targed hwn yn caniatáu inni gwblhau'r gwelliannau hyn a pharhau i ofalu am yr adeilad a'r gymuned y mae'n cefnogi.
Os ydych chi erioed wedi cael seibiant yma, chwerthin, ail-lenwi, neu deimlo'n gartrefol yma, neu os ydych chi'n credu ym mhwysigrwydd mannau cymunedol mewn ardaloedd gwledig, byddem yn ddiolchgar iawn am eich cefnogaeth. Mae rhoddion o unrhyw faint yn helpu, ac mae rhannu ein stori yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol hefyd.
Gallwch ein cefnogi hefyd drwy alw heibio am frecwast, cinio, neu ychydig o siopa bwyd pryd bynnag y byddwch chi gerllaw.
Mae Blas Lôn Las wedi bod yn ganolbwynt cymunedol erioed. Gyda'ch help chi, gall barhau i fod yn fan lle gall pobl gwrdd, teimlo eu bod yn perthyn a mwynhau'r croeso.
Diolch i chi am fod yn rhan o'n hanes ni.
Organizer
Blas Lon Las Cafe
Organizer

