Shw mae! Chris ydw i. Rwy wedi cael gwahoddiad i arddangos detholiad o'm archif ffotograffiaeth yn Neuadd Les, Ystradgynlais dros yr haf ac angen argraffu a gosod 50 o luniau protest a chanu Cymreig a Chymraeg dros y degawdau diwethaf ar fyr rybudd. 'Sdim cyllid ar gael felly dwi angen codi arian i gyfero'r costau argraffu.
Gwerthfawrogwn unrhyw gyfraniad at hyn. Bydd yr arddangosfa yn cynnwys protestiadau Cymdeithas yr Iaith, Rali Hywel Teifi a Chilmeri ac yn cynnwys gwleidyddion megis Gwynfor Evans, Dafydd El ac ati, a chantorion fel Meic Stevens trwodd i Fflur Dafydd, Sibrydion a Chowbois Rhos Botwnog. Byddaf yn creu pdf o ddetholiad o'r lluniau fydd ar gael yn electronig i unrhyw un sydd yn cyfrannu.
Bydd croeso mawr i bawb sydd yn cyfranu ddod i'r agoriad, wrth gwrs :)
Hi, I've been invited at short notice to display a selection of my photographic archive of protest and music artists at the Ystradgynlais Welfare Hall over the summer and need to print and mount 50 photographs for exhibition. There's no funding available so I need to raise some money to cover the cost of production.
I would appreciate any contibutions and a pdf of selected photos will be made available to anyone who contributes. The photos are of early 90's language protests, Cilmeri and musical artists such as Meic Stevens, Fflur Dafydd, and may include Shakin Stevens...
All contributors will be warmly welcome to attend the opening :)
Organizer
Chris Reynolds (Organizer)
Organizer
Wales


