Adnewyddu a Diogelu Capel Llwyndyrys

Adnewyddu a Diogelu Capel Llwyndyrys campaign photo, 1 of 3Adnewyddu a Diogelu Capel Llwyndyrys campaign photo, 1 of 3

15 donors
Fundraiser’s main image
0% complete

£1,435 raised of £5K

‌

Adnewyddu a Diogelu Capel Llwyndyrys

Adnewyddu a Diogelu Capel Llwyndyrys

0% complete

£1,435 raised of £5K

15 donations
Donation protected

Cyflwyniad

Mae'r syniad o adnewyddu'r capal i fod yn ofod modern ac aml-bwrpas wedi ei drafod ers 2019 ac eleni yr ydym wedi cael £25,000 tuag at y gwaith sydd yn gychwyn arbennig o dda (Er mae'n bechod nad oedd modd cael mwy!)

Amcanion y cynllun hwn yw:

• Sicrau y bydd bywyd i’r addoldy am flynyddoedd i ddod a’i fod yn fan cysurus a diogel i ni gwrdd ac addoli.

• Sicrhau bod yr adeilad ei hun yn gadarn, yn dal dwr ac yn cwrdd ac anghenion modern ac aml bwrpas.

• I ddarparu gofod a fydd o ddefnydd i’r eglwys a gweithgareddau eraill y gymuned gyfan.

• I ddarparu adeilad a fydd yn effeithiol ac yn gynaliadwy i’w gynnal, ei gynhesu a’i gadw i’r dyfodol.

• I fod yn ganolbwynt digwyddiadau cymunedol yn yr ardal wledig hon lle nad oes unrhyw ddarpariaeth arall ar gael.

• I fod yn gartref i’r Ysgol Sul hapus a brwdfrydig sydd yma ac yn cwrdd yn rheolaidd. Mae yma ddosbarth i blant llai na saith, dros saith a hefyd ddosbarth oedolion.

• I ddarparu tŷ bach a chegin o fewn yr adeilad a sydd yn hygyrch i bawb o bob oed.

• I ddarparu cartref i’r Gymdeithas Lenyddol sydd yn cwrdd yma yn ystod misoedd y gaeaf gyda siaradwyr gwadd diddorol a brethyn cartref.

• Mae’n arferiad paratoi paned ar ôl digwyddiadau yn y fro ac mae’r sefyllfa fel y mae ar hyn o bryd yn beryglus. Bydd y cynllun yn caniatáu i ni gael cegin hwylus yn y Capel er mwyn hwyluso trefniadau.

• I fod yn gartref i Gwmni Drama Llwyndyrys, gofod iddynt berfformio yn ei cynefin ac ymarfer yna. Mae’n siom ar hyn o bryd bod y Cwmni Drama yn gorfod ymarfer mewn neuaddau eraill yn y cyffiniau.

• I fod yn ganolbwynt i ddigwyddiadau hyfforddi yn yr ardal, dyma gartref naturiol fel enghraifft ar gyfer ein digwyddiadau hyfforddiant Cymorth Cyntaf a diffib.

• I roi cartref i Bwyllgor Cyfeillion Eglwys Carnguwch sydd wedi ei sefydlu i ddiogelu’r eglwys hynafol. Dyma ble mae Cyfeillion yr Eglwys yn cwrdd.

• I sicrhau y byddwn yn cynnal ein Swpar Cynheaf gyda siaradwyr gwadd yma yn y Capel yn y dyfodol. Dyma swper blynyddol ble mae’r ardal yn dod ynghyd i ddiolch a chymdeithasu ac i fwynhau arlwy o adloniant ac mae’n rhaid teithio o’r ardal i gynnal y noson ar hyn o bryd.

• I ddatblygu gweithgareddau newydd a gweithgareddau’r capel i apelio i bobl ifanc yr ardal. Bydd hyn yn cynnwys gweithgareddau megis beicio, ymarfer corff, gwylio gemau rygbi, nosweithiau cwis ac ati.

• Ein cynllun yw sefydlu pwyllgor adloniant i drefnu nosweithiau amrywiol gan sicrhau y bydd rhywbeth i apelio at bawb.

• Capel cysygredig yw’r adeilad a bydd ein gwasanaethau presennol yn parhau ac yn datblygu. Byddwn yn cadw’r pulpud presennol yn union fel ag y mae – dyma ddewis aelodau ifanc y capel.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Donate

‌
‌‌
‌
‌‌
‌
‌‌
‌
‌‌
‌
‌‌

Organizer

Pryderi Rhisiart
Organizer
Wales
EGLWYS BRESBYTERAIDD CYMRU - THE PRESBYTERIAN CHURCH OF WALES
Beneficiary

Your easy, powerful, and trusted home for help

  • Easy

    Donate quickly and easily

  • Powerful

    Send help right to the people and causes you care about

  • Trusted

    Our Trust & Safety team works around the clock to keep our community safe