- A
- A
Achub Cylch Meithrin Myrddin
Mae Cylch Meithrin Myrddin yn chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu gofal plant ac addysg gynnar cyfrwng Cymraeg o ansawdd uchel i blant 2 i 4 oed yn nhref Caerfyrddin. Fel gwasanaeth lleol, cymunedol, maent yn cefnogi datblygiad ein dysgwyr ieuengaf, gan eu helpu i adeiladu sgiliau hanfodol ar gyfer eu dyfodol. Gall y plant ddysgu a chymdeithasu, dan arweiniad staff proffesiynol, cymwys ac ymroddedig trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn eu hardal leol. Fodd bynnag, er mwyn parhau i gynnig yr adnodd hwn y mae mawr ei angen, mae cyllid yn hollbwysig. Bydd y cymorth ariannol yn sicrhau bod Cylch Meithrin Myrddin yn gallu cynnal ei staff ymroddedig, parhau i ddarparu gweithgareddau ysgogol, a chreu amgylchedd diogel, anogol i blant yng nghanol Caerfyrddin. Bydd eich cyfraniad yn effeithio'n uniongyrchol ar fywydau teuluoedd lleol ac yn helpu i sicrhau dyfodol y gwasanaeth amhrisiadwy hwn i aelodau ieuengaf ein cymdeithas. Os gwelwch yn dda, ystyriwch gyfrannu heddiw i gadw'r adnodd hanfodol hwn yn fyw i'n cymuned.
Save Cylch Meithrin Myrddin
Cylch Meithrin Myrddin plays a vital role in providing Welsh medium, high-quality childcare and early education for children aged 2 to 4 in Carmarthen town. As a local, community-based service, they support the development of our youngest learners, helping them build essential skills for their future. The children are able to learn and socialise, under the guidance of professional, qualified and dedicated staff through the medium Welsh and in their local area. However, to continue offering this much-needed resource, funding is crucial. The financial support will ensure that Cylch Meithrin Myrddin can maintain its dedicated staff, provide stimulating activities, and create a safe, nurturing environment for children in the heart of Carmarthen. Your contribution will directly impact the lives of local families and help secure the future of this invaluable service for our youngest members of society. Please consider donating today to keep this essential resource alive for our community.
Organizer
C
CYLCH MEITHRIN CAERFYRDDIN
Beneficiary


