- G
- E
- c
Ar ddydd Sul yr 2il o Hydref mi fydd Arthur, Ianto, Cadi a Ela yn cwblhau taith gerdded ar hyd traeth Morfa Nefyn i Ty Coch ac yn ol dros lon golff.
Y bwriad ydi casglu arian i gael cadair arbennig fel bod Wil eu cefndar yn gallu ymuno hefo nhw ar y traeth yn y dyfodol.
Ar hyn o bryd nid yw ei gadair yn addas ar gyfer bob math o dir. Er mwyn iddo gael cadair sydd yn addas ar gyfer bob math o dir mae angen gwario bron i £3000. Hyd yn hyn maent wedi llwyddo i gasglu £1500. Rydym yn gobeithio ychwanegu ychydig at y cyfanswm yma.
Mi fydd Wil yn dathlu ei benblwydd yn 8oed ar Fedi 22. Mi fyddai yn neis iddo gael anrheg ychwanegol eleni er mwyn iddo gael mwynhau mynd ar fwy o anturiaethau gan ei fod wrth ei fodd allan yn yr awyr iach. Mi fydd Wil yn ymuno a'r y daith o Ty Coch yn ol i bentra Morfa Nefyn.
Byddai unrhyw gyfraniad allwch ei rhoi yn cael ei werthfawrogi yn arw iawn.
On Sunday the 2nd of October Arthur, Ianto, Cadi and Ela will complete a walk along the beach in Morfa Nefyn and then along the golf course.
The intention is to collect money to buy a chair so that their cousin Wil can join them on the beach in the future.
At the moment his chair is not suitable for all terrains. So that he can get a chair that travels on all terrains around £3000 is needed. Up to now they have collected £1500, and we hope to be able to add to the total.
Wil will celebrate his 8th birthday on September 22nd. It would be nice if he received an extra present this year so that he can enjoy mor adventures as he loves to spend time outdoors in the fresh air.
Wil will be joining us on the walk from Ty Coch back to the village of Morfa Nefyn.
Any contributions that you can give would be greatly appreciated.
Organisator und Spendenbegünstigter
Catherine Greaves
Spendenbegünstigte

