Main fundraiser photo

Mae gan dlodi wyneb benywaidd

Donation protected
Nod apêl 2019 Coda Ni yw codi £4000 er mwyn agor Canolfannau Llythrennedd a Sgiliau i Ferched ym mhentre Saouga ar gyrion y Sahara yn Burkina Faso. Anfonir y cyfan trwy'r eglwys ifanc leol gan ddangos trwy ein gweithredoedd nad yw Duw yn anghofio am ei blant yno, ac yn galw merched hefyd i ryddid llawn wrth weithio dros y Deyrnas.

Dyma un o'r cymunedau mwyaf bregus yn y bumed wlad dlotaf yn y byd. Mae diffyg maeth cyson, problemau o ganlyniad i ymlediad y Sahara a bygythiad oherwydd y rhyfel ym Mali cyfagos. Yn bennaf oll, ofnant fod pawb wedi anghofio amdanynt. Gofynnwn am eich cefnogaeth i ddangos fod gobaith yn fyw.

Grŵp o Gristnogion o Ddyffryn Teifi yw "Coda Ni" sy'n credu fod y Crist atgyfodedig yn awchu am gyflawni ei waith yn y byd trwy bobl sy'n arddel ei enw er mwyn dyfodiad ei deyrnas "megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd". Ein nod yw estyn allan at bobl sy mewn angen i ddangos nad oes neb tu allan i gylch cariad Duw. Rydyn ni wedi ffurfio cysylltiad ers 10 mlynedd gyda chymuned o'r enw Saouga ar gyrion y Sahara yng ngogledd Burkina Faso, lle rydym wedi cefnogi'r ysgol leol - trwsio'r ffynnon ddŵr, creu gardd lysiau a phrynu desgiau a meinciau, hyfforddi tyddynwr lleol i helpu i drawsnewid y tir,  a'r eglwys ifanc yn yr ardal, a chynigir pob cymorth trwy'r eglwys. Mae gweinidog yr eglwys - Etienne - wedi rhoi heibio popeth oedd gyda fe er mwyn gwasanaethu'r gymuned yn Saouga yn enw Iesu.

Fundraising team: Coda Ni (3)

Morfudd Nia Jones
Organizer
Wales
Ffred Ffransis
Team member
Heledd Tomos
Team member

Your easy, powerful, and trusted home for help

  • Easy

    Donate quickly and easily.

  • Powerful

    Send help right to the people and causes you care about.

  • Trusted

    Your donation is protected by the  GoFundMe Giving Guarantee.