Her Arfordir Y Cymric
Donation protected
5 Tîm > 1,400km > 72 Awr : I godi arian i Tarian Cymru
Chwaraeon y Cymric yw corff chwaraeon cyfrwng Cymraeg Prifysgol Bangor. Mae'n cynnwys tîm Pêl-Rwyd Merched, timau Phêl-Droed Merched a Dynion ac hefyd timau Rygbi Merched a Dynion.
Gan fod y lockdown wedi effeithio ar gallu'r timau i chwarae gemau, mynychu twrnametau a chynnal ymarferion, penderfynwyd gosod sialens i godi ymwybyddiaeth dros ymgyrch Tarian Cymru ac i geisio codi arian iddyn nhw.
Mae Tarian Cymru yn "ymgyrch codi arian i roi offer gwarchodol i weithwyr iechyd a gofal yng Nghymru". Maent yn gwneud gwaith arbennig er mwyn sicrhau fod y Cymry mewn angen yn derbyn yr offer PPE sydd angen arnyn nhw.
Er mwyn codi ymwybyddiaeth a chodi'r arian, bydd 5 tim Y Cymric yn ceisio cyflawni'r sialens o gerdded hyd Llwybr Arfordir Cymru (870 milltir neu 1,400km) o fewn 72 awr. Bydd y sialens yn cychwyn am 12y.b Bore Gwener 22ain o Fai ac yn gorffen am 11:59y.h. Nos Sul 24ain o Fai.
Mae croeso i unrhyw aelod o'r 5 tim, ac hefyd unrhyw gyn-aelodau, aelodau cyswllt neu darpar-aelodau sydd yn gobeithio ymuno efo'r timau flwyddyn nesaf cymryd rhan yn y sialens. Neu hyd yn oed os nad ydych yn rhan o'r timau ac eisiau gwneud eich rhan mae croeso ichi!!
Gweler linc isod i ymuno efo'r clwb Strava:
https://www.strava.com/clubs/chwaraeonycymric
Neu fe allwch chi gyrru eich pellteroedd yn syth i Iwan (Cynrychiolydd Chwaraeon y Cymric)
Fydden ni wir yn gwerthfawrogi unrhyw rhodd tuag at yr achos, gan fydd yr arian i gyd yn gael ei roi tuag at ymgyrch hollol arbennig sydd yn gwneud gwir gwahaniaeth yma yng Nghymru.
Diolch.

Organizer and beneficiary
Chwaraeon Cymric
Organizer
Wales
Tarian Cymru
Beneficiary
Inspired to help? Start a fundraiser for someone you know