Main fundraiser photo

Eisteddfod Caerdydd

Donation protected

Os hoffech chi’n helpu ni i gynnal eisteddfod leol yng Nghaerdydd, byddem yn gwerthfaworgi unrhyw gyfraniad. 

Os yw eich rhodd i noddi cystadleuaeth benodol, cysylltwch â ni drwy e-bostio [email redacted]ru. Mae’r rhestr testunau ar gael yn www.eisteddfodcaerdydd.cymru

Fel arall bydd eich nawdd yn cael ei ddefnyddio i dalu costau cyffredinol rhedeg yr eisteddfod, gan gynnwys talu am logi’r lleoliad, beirniaid, gwobrau cyffredinol ac yswiriant. 

Cefndir
Ar ôl Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018, cafodd sawl person y syniad o gynnal
eisteddfod leol yng Nghaerdydd. Felly dyma grŵp o ni’n dod at ein gilydd i drefnu’r eisteddfod. 

Erbyn hyn ry’n ni wedi cael nawdd gan Tŷ Cerdd a rhoddion gan amryw gorau a sefydliadaulleol. Ond mae dal llawer o ffordd i fynd i ni allu sicrhau eisteddfod lwyddiannus yn 2020, aci’r dyfodol. 

Dyma lle gallwch chi helpu. Drwy wneud cyfraniad bychan, a rhannu’r dudalen hon gyda ffrindiau a theulu, gallwn ni godi digon o arian i sicrhau cynnal eisteddfod lwyddiannus. Y cwblfydd ar ôl wedyn fydd i chi ddod i gystadlu neu gefnogi ar y noson!

Felly os allwch chi sbario ychydig bunnoedd, gyda’n gilydd fe allwn ni sicrhau eisteddfod leol i Gaerdydd. 

Diolch
Pwyllgor Eisteddfod Caerdydd

Organizer

Sioned Wyn
Organizer

Your easy, powerful, and trusted home for help

  • Easy

    Donate quickly and easily.

  • Powerful

    Send help right to the people and causes you care about.

  • Trusted

    Your donation is protected by the  GoFundMe Giving Guarantee.